MEMORANDWM CYDSYNIAD DEDDFWRIAETHOL ATODOL

 

Y BIL DADREOLEIDDIO: DIWYGIADAU MEWN PERTHYNAS Â DEDDF DALIADAU AMAETHYDDOL 1986, DEDDF BRIDIO CŴN 1973 A DEDDF BRIDIO A GWERTHU CŴN (LLES) 1999 

 

1.    Gosodir y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn o dan Reol Sefydlog ("RhS") 29.2. Mae Rheol Sefydlog 29 yn rhagnodi bod yn rhaid gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, ac y ceir cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gerbron y Cynulliad Cenedlaethol os yw Bil gan Senedd y DU yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru at ddiben sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, neu at ddiben sy’n addasu’r cymhwysedd hwnnw. 

 

2.    Cafodd y Bil Dadreoleiddio (y "Bil") ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin ar 23 Ionawr 2014.  Mae'r Bil i'w weld yn:

 

  http://services.parliament.uk/bills/2013-14/deregulation.html

 

Crynodeb o’r Bil a’i Amcanion Polisi

 

3.    Mae'r Bil yn cael ei noddi gan Swyddfa'r Cabinet. Amcanion Llywodraeth y DU ar gyfer y Bil yw dileu neu leihau beichiau rheoleiddiol diangen sy'n llesteirio neu’n costio arian i fusnesau, unigolion, gwasanaethau cyhoeddus neu'r trethdalwr.

4.    Mae'r Bil yn cynnwys mesurau sy'n ymwneud a meysydd cyffredinol a phenodol sy'n gysylltiedig â busnes, cwmnïau ac ansolfedd, defnyddio tir, tai, trafnidiaeth, cyfathrebu, yr amgylchedd, addysg a hyfforddiant, adloniant, awdurdodau cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder. Mae'r Bil yn darparu hefyd ar gyfer gosod dyletswydd ar y rheini sy'n arfer swyddogaethau rheoleiddiol penodedig i ystyried buddioldeb hyrwyddo twf economaidd. Bydd y Bil hefyd yn diddymu deddfwriaeth nad yw bellach o ddefnydd ymarferol.

 

Darpariaethau yn y Bil y ceisir cydsyniad ar eu cyfer

 

Deddf Daliadau Amaethyddol 1986; datrys anghydfodau drwy benderfyniad gan drydydd parti    

 

5.    Gofynnir i'r Cynulliad ganiatáu’r diwygiad i'r Bil Dadreoleiddio a osodwyd ar 13 Mawrth 2014, ac sy'n diwygio amryfal adrannau o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, ynghyd ag amryfal Atodlenni iddi. Mae'r diwygiadau hynny i Ddeddf 1986 yn gwneud darpariaeth sy'n galluogi'r partïon i gytuno bod anghydfodau (ac eithrio'r rheini sy'n ymwneud â rhybudd i ymadael) yn cael eu setlo gan arbenigwr annibynnol yn hytrach na thrwy gymrodeddu.

 

6.   Ar hyn o bryd, mae Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 yn darparu tri dull o ddatrys anghydfodau rhwng landlordiaid a thenantiaid:

 

a.     y Tribiwnlys Tir Amaethyddol (mewn perthynas â Chymru);

b.     cymrodeddu;

c.     y Llysoedd.

 

7.    Cymrodeddu yw'r prif ddull o ddatrys anghydfodau o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986. O dan y Ddeddf honno, nad yw'n darparu ar gyfer dull arall o ddatrys anghydfodau, mae'n rhaid cyfeirio'r rhan fwyaf o anghydfodau, yn enwedig y rheini sy'n ymwneud ag ystyriaethau amaethyddol ymarferol, i'w cymrodeddu. Effaith y diwygiad fydd darparu ar gyfer y partïon dan sylw broses amgen, llai beichus o ddatrys anghydfodau, sydd hefyd yn un gyflymach a chosteffeithiol

 

8.    Mae'r diwygiadau i Ddeddf Daliadau Amaethyddol1986 yn gymwys o ran Cymru.

 

9.    Nid yw'r diwygiadau iDdeddf Daliadau Amaethyddol 1986yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth.

 

10. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod y darpariaethau hyn o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn ymwneud ag:

a.   Amaethyddiaeth (o dan baragraff 1 o Ran 1, Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006); a

 

b.   Tai (o dan baragraff 11 o Ran 1, Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006).

 

Deddf Bridio Cŵn 1973 (p.60) a Bridio a Gwerthu Cŵn (Lles) 1998 (p.11)  

 

11.Gofynnir i'r Cynulliad ganiatáu'r diwygiad i'r  Bil Dadreoleiddio, a osodwyd ar 18 Mawrth 2014, ac sy'n diddymu:

 

a.    Is-adran 1(4)(i) o Ddeddf Bridio Cŵn 1973 (ac sy'n gwneud y diwygiadau canlyniadol angenrheidiol);

 

b.    Is-adrannau 8(1)(e) ac 8(3) o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cŵn (Lles) 1999 (ac sy'n gwneud y diwygiadau canlyniadol angenrheidiol).

 

12.Mae'r bwriad i ddiddymu is-adran 1(4)(i) o  Ddeddf Bridio Cŵn 1973 ac is-adrannau 8(1)(e) ac 8(3) o Ddeddf Bridio a Gwerthu  Cŵn (Lles) 1999 (ynghyd â'r diwygiadau canlyniadol angenrheidiol) a nodir yn y Bil Dadreoleiddio yn gymwys i Loegr a, chyda chaniatâd y Cynulliad, i Gymru. 

 

13. Ar hyn o bryd, mae adran 1(4)(i) o Ddeddf Bridio Cŵn 1973 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol, wrth benderfynu a ddylid rhoi trwydded i sefydliad bridio cŵn ai peidio, ystyried yr angen i sicrhau bod cofnodion cywir yn cael eu cadw. O dan is-adran 8(1)(e) o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cŵn (Lles) 1991, mae, ar hyn o bryd, yn drosedd i geidwad sefydliad bridio trwyddedig werthu i geidwad siop anifeiliaid anwes drwyddedig neu i sefydliad magu yn yr Alban gi nad yw, pan gaiff ei drosglwyddo, yn gwisgo coler ac arno dag neu fathodyn adnabod. O dan is-adran 8(3) o Ddeddf 1991, mae, ar hyn o bryd, yn drosedd i geidwad siop anifeiliaid anwes drwyddedig werthu ci a oedd, pan gafodd ei drosglwyddo iddo, yn gwisgo coler ac arno dag neu fathodyn adnabod ond nad yw'n gwisgo coler o'r fath wrth gael ei drosglwyddo i'r prynwr.

 

14. Mae deddfwriaeth newydd (a fydd yn disodli'r ddeddfwriaeth bresennol ar fridio ac adnabod cŵn) yn cael ei datblygu yng Nghymru a Lloegr, a fydd, yn ei hanfod, yn ei gwneud yn ofynnol gosod microsglodyn mewn anifail fel y bo modd ei adnabod. Byddai cadw'r gofynion presennol i gadw cofnodion papur ar adnabod cŵn yn dyblygu gofynion, a byddai hefyd yn faich diangen ar fusnesau bach. Er gwybodaeth, nid yw'r ffaith bod y ddeddfwriaeth uchod ar fridio cŵn yn cael ei diddymu yn dileu'r gofyniad i berson sy'n berchen ar gi sicrhau bod gan y ci hwnnw goler ac arno dag adnabod ac y gellir clymu tennyn wrtho.

 

15. Er gwybodaeth, mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 ar fin cael eu gosod a'u gwneud mewn perthynas â Chymru cyn toriad yr haf, a byddant yn dod i rym 6 mis yn ddiweddarach. Mae'r rheoliadau hynny'n cynnwys dulliau adnabod priodol megis yr angen i osod microsglodyn mewn ci cyn iddo adael mangre bridio a'r angen i gadw cofnodion priodol ar fridio cŵn.

 

16.Ar y sail honno, bernir nad oes bellach angen y darpariaethau'n ymwneud â bridio cŵn sy'n cael eu diddymu gan y diwygiad yn y Bil Dadreoleiddio ac, o'r herwydd, y dylai'r diddymiadau arfaethedig fod yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

 

17. Yr unig beth y mae'r ddarpariaeth uchod yn y Bil Dadreoleiddio yn ei wneud yw diddymu is-adran 1(4)(i) o Ddeddf Bridio Cŵn 1973 ac

is-adrannau 8(1)(e) ac 8(3) o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cŵn 1999 (a gwneud y diwygiadau canlyniadol angenrheidiol).Nid yw'r ddarpariaeth hon yn y Bil yn rhoi unrhyw bwerau i Weinidogion Cymru wneud

is-ddeddfwriaeth.

 

18.   Mae Llywodraeth Cymru o'r farn (i'r graddau y mae'r darpariaethau hyn yn ymwneud â Chymru) bod y darpariaethau hyn o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn ymwneud ag Iechyd a Lles Anifeiliaid o dan baragraff 1o Ran 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Manteision defnyddio'r Bil hwn yn hytrach na deddfwriaeth y Cynulliad

 

  1. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol ymdrin â'r darpariaethau hyn yn y Bil hwn gan Senedd y DU gan mai dyma'r dull deddfwriaethol mwyaf priodol a chymesur o alluogi'r darpariaethau hyn i fod yn gymwys mewn perthynas â Chymru. Mae'r diwygiadau arfaethedig yn rhai technegol ac annadleuol. Hefyd, mae'r cysylltiadau agos rhwng y systemau gweinyddol perthnasol yng Nghymru a Lloegr yn golygu mai'r ffordd fwyaf effeithiol a phriodol o weithredu yw bwrw ymlaen â darpariaethau'r Bil ar gyfer y ddwy wlad ar yr un pryd yn yr un offeryn deddfwriaethol.

 

Goblygiadau ariannol

 

  1. Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol i Lywodraeth Cymru.

 

 

 

 

 

 

 

Alun Davies  AC

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Ebrill 2014